Senedd Cymru | Welsh Parliament
Y Pwyllgor Cyllid | Finance Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27 | Welsh Government Draft Budget 2026-27
Ymateb gan Teledwyr Annibynnol Cymru, | Evidence from Teledwyr Annibynnol Cymru,
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Bydd y Pwyllgor yn cofio o'n cyflwyniad y llynedd bod gan Gymru tua 50 o gwmnïau cynhyrchu teledu, busnesau bach a chanolig creadigol sy'n gwneud rhaglenni teledu o ansawdd uchel ar gyfer Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus (PSB) y Deyrnas Unedig (DU), llwyfannau ffrydio ac ar gyfer S4C. Caerdydd yw'r trydydd mwyaf yn y DU o ran y sector cynhyrchu teledu. Cyflawnodd y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru drosiant o £460m i Gymru yn ystod 2023. (https://www.llyw.cymru/maer-ffigyrau-diweddaraf-yn-dangos-ffyniant-creadigol-yng-nghymru-syn-rhoi-hwb-ir-economi)
Mae'r hinsawdd bresennol o ran cynhyrchu teledu yn parhau i fod yn heriol, gyda leihad mewn hysbysebu ynghyd â chwyddiant gyda'i gilydd yn creu gwasgedd ar gomisiynu gan PSBs yn y DU a ffrydwyr byd-eang. Mae'r effaith yn waeth y tu allan i'r M25 ac yn enwedig felly yng Nghymru. Mae ymchwil yn dangos bod cyfran y gwariant ar gynyrchiadau y tu allan i Lundain wedi crebachu ychydig i 48% o 52% yn 2023, fodd bynnag, gostyngodd y gwariant yng Nghymru o 13% i 5% (Cyfrifiad O&O/Pact 2025).
Mae cwmnïau cynhyrchu teledu yn gweithio gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol eraill yn y diwydiant creadigol a’r gwasanaethau eraill. Felly, mae cefnogi'r sector cynhyrchu teledu yn bwysig iawn i ddyfodol economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Cymru. Yn y cyd-destun hwn, mae gwaith Cymru Greadigol yn bwysig iawn. Mae Cymru Greadigol yn darparu cyllid i ddatblygu cynyrchiadau yn ogystal â chefnogi amrywiaeth o raglenni i feithrin sgiliau amrywiol gwahanol er enghraifft ar gyfer technegwyr sgrin neu awduron sy’n gweithio yn y diwydiant sgrin, yn amrywio o dechnegwyr sgrin i awduron. Nod arall ein gwaith yw cynyddu amrywiaeth yn y sector.
Fe hoffem weld cynnydd mewn cyllid ar gyfer Cymru Greadigol/Ffilm Cymru Wales i ychwanegu at botensial ein sector, ar gyfer datblygu syniadau a chynyrchiadau newydd a fydd yn helpu cwmnïau cynhyrchu brodorol o Gymru i dyfu eu busnesau, yn ogystal â denu mewnfuddsoddiad o'r DU ac yn rhyngwladol.
Gwnaethom groesawu, yn y Gyllideb Derfynol ar gyfer 25-26, fod £4.381 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu drwy Prif Grŵp Gwariant yr Economi, Ynni a Chynllunio, 'ar gyfer y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth, cyhoeddi, creadigol a chwaraeon i adlewyrchu'r sefyllfa heriol y mae'r sector wedi'i hwynebu yn ddiweddar' (https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2025-02/nodyn-esboniadol-2025-2026.pdf). Mae'r amodau yn dal i fod yn anodd ac felly mae'n bwysig bod y cyllid hwn yn cael ei gynnal a'i gynyddu.
Nodwn fod y datganiad a wnaed ym mis Mai, gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynlluniau o'r neilltu ar gyfer Corff Cynghori Darlledu a Chyfathrebu newydd (https://www.llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddariad-ar-ddarlledu-ar-cyfryngau).
Yn hytrach, mae cyfrifoldeb ar Gymru Greadigol yn awr i gynnal ymchwil sectoraidd bellach a chynyddu ei ymgysylltiad â rhanddeiliaid cysylltiedig. Bydd angen adnoddau ychwanegol ar Gymru Greadigol i gyflawni ei swyddogaethau pwysig o ran ein hymrwymiad i ddiogelu a chryfhau'r sector creadigol.
Yn olaf, hoffem weld cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer Gweinidog sydd wedi’i neilltuo fydd yn gofalu am y diwydiannau creadigol, y cyfryngau a chyfathrebu, ac a fyddai'n gallu arwain ar faterion fel meithrin enw da Cymru fel canolfan a lleoliad ar gyfer gwneud ffilm. Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i hyrwyddo ac arddangos sectorau creadigol Cymru. Gallai y Gweinidog hefyd fod â mwy o rôl o bosibl wrth ddal darlledwyr a rheoleiddwyr y DU i fwy o gyfrif am eu perfformiad a'u dibenion cyhoeddus yng Nghymru.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Mae'r rhai sydd â chyfleusterau stiwdio teledu a ffilm yn nodi bod angen diwygio cyfraddau busnes.
Mae'r cyfraddau wedi'u gosod ar gyfradd uchel, ac yn ogystal, o ystyried natur stop-and-start gwneud ffilm, mae'n anodd cadw'r cyfleusterau hyn yn gweithredu'n gyson ac felly mae angen eu trin yn wahanol i fusnesau sy'n gweithredu'n gyson.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Mae'r amgylchedd yn fater datganoledig ac mae Cymru yn arwain y ffordd mewn rhai meysydd, er enghraifft cael ei henwi'n ail yn y byd ar gyfer ailgylchu, a hynny o flaen gweddill y DU. Mae TAC eisoes yn gweithio gydag S4C a Bafta albert er mwyn sicrhau bod cynyrchiadau teledu yn gweithio tuag at wireddu gwelliant o ran cynaliadwyedd ac mae rhai cwmnïau cynhyrchu yn cyflwyno dulliau arloesol o wneud cynyrchiadau carbon isel neu garbon-niwtral.
Rydym yn galw am fwy o gefnogaeth ac arweiniad i'r diwydiannau creadigol yn hyn o beth gan Lywodraeth Cymru. Rhaid i'r Gyllideb gynnal y flaenoriaeth bresennol o flaenoriaethu 'sgiliau gwyrdd', sy'n ymwneud â gweithredu arfer dda sy'n ystyried yr amgylchedd mewn ystod eang o alwedigaethau gan sicrhau bod y diwydiannau creadigol yn flaengar ac amlwg.
Gellir gweithredu hyn drwy roi mwy o bwyslais ar gynaliadwyedd yng nghyllid datblygu a sgiliau Cymru Greadigol, drwy gynnwys cyllid yn y gyllideb i Gymru Greadigol i gael rôl Hwylusydd Cynaliadwyedd newydd i weithio gyda'r diwydiant yng Nghymru.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Hoffai'r Pwyllgor ganolbwyntio ar nifer o feysydd penodol eraill wrth graffu ar y Gyllideb. A oes gennych unrhyw sylwadau penodol o ran y meysydd a nodir isod?
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Mae gwaith teledu/ffilm gweithwyr llawrydd yn dod yn fwyfwy ansicr, heb unrhyw sicrwydd o incwm rheolaidd a hefyd costau sylweddol sy'n gysylltiedig â chadw sgiliau yn gyfredol, ynghyd â chostau eraill bod yn hunangyflogedig. Mae cynnal sylfaen sgiliau gweithwyr llawrydd yn hanfodol os ydym am lywio trwy'r cyfnod anodd presennol er mwyn manteisio ar y galw a’r cyfleoedd cynyddol yn y dyfodol.
Mae Cynllun Sector Diwydiannau Creadigol Llywodraeth y DU yn cynnwys ymrwymiad i gael Hyrwyddwr Gweithwyr Llawrydd er mwyn sicrhau bod anghenion gweithwyr llawrydd creadigol yn cael eu cydnabod mewn polisïau, a hoffem weld ystyriaeth ynghylch a yw hynny hefyd yn swyddogaeth y gellid ei hariannu a'i gweithredu o fewn Llywodraeth Cymru.
Rydym hefyd yn cefnogi incwm sylfaenol i weithwyr llawrydd. Mae’r cynllun Incwm Sylfaenol ar gyfer y Celfyddydau yng Ngweriniaeth Iwerddon wedi cynorthwyo gweithwyr creadigol i aros yn y swyddi hynny a chynnal eu hunain, a thrwy hynny barhau i fod ar gael i'r diwydiannau maen nhw'n gweithio ynddyn nhw. Rydym am weld ymrwymiad i gyflwyno cynllun tebyg yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod sylfaen ein gweithwyr llawrydd yn cael ei chynnal a’i bod ar gael i fodloni’r twf mewn cynhyrchu wrth i sefydlogrwydd ddychwelyd.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Dylai Llywodraeth Cymru gynnwys asesiad cyson i weld beth yw’r effeithiau economaidd ar yr economi o ganlyniad i leihad neu gynnydd mewn gwariant.
Mae hyn yn bwysig er mwyn derbyn darlun clir o effeithiau cynyddu/lleihau cyllid ar y sectorau economaidd dan sylw.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Mae’r ddarpariaeth teledu ar gyfer plant a phobl ifanc yn bwysig, fel y gallan nhw weld eu gwlad a’i ddiwylliant yn cael ei amlygu a'i gyflwyno iddyn nhw.
Mae hyn unwaith eto yn gofyn beth ydy maint y gefnogaeth sydd i gynyrchiadau teledu plant yng Nghymru.
Mae Cymru Greadigol wedi ceisio darparu cyllid datblygu i gynnwys pobl ifanc yn y gorffennol ac mae angen i hyn barhau. Hefyd, bydd canlyniad yr adolygiad o Ffi Drwydded Deledu yn bwysig o ran buddsoddi yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, sy'n creu cynnwys i bobl ifanc ac yn darparu gyrfaoedd posibl iddyn nhw.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).